Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Ionawr 2016
Amser: 09.32 -
12.15
Gellir gwylio’r cyfarfod
ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3326
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Rees AC Alun Davies AC John Griffiths AC Altaf Hussain AC Elin Jones AC Jenny Rathbone AC (yn lle Lynne Neagle AC) Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
Tystion: |
Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Martin Sollis, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Rhys Morgan (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1.1 The Committee discussed its approach to the scrutiny of the Draft Budget 2016-17.
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Lynne Neagle. Dirprwyodd Jenny Rathbone ar ran Lynne Neagle.
3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a gwaith y Dirprwy Gweinidog Iechyd ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
3.2 Cytunodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog i ddarparu'r canlynol:
· amlinelliad o sut mae'r £200 miliwn ychwanegol i gefnogi cyflenwi craidd y GIG wedi cael ei ddosbarthu;
o ymateb i'r ffigurau a amlinellwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru Helpu Pobl Hŷn i Fyw'n Annibynnol: A yw Cynghorau'n gwneud digon?' (Hydref 2015) sy'n dangos - ar sail dadansoddiad Swyddfa Archwilio Cymru bod 16.8 y cant o ostyngiad i gyllidebau gwasanaethau ataliol, o £147.3 miliwn yn 2013-14 i £122.5 miliwn yn 2014-15, gyda saith o'r meysydd a adolygwyd ganddynt yn gweld eu cyllidebau yn gostwng.
· dadansoddiad o'r gwariant cyfalaf arfaethedig ar gyfer 2016-17, yn cynnwys:
o manylion y dyraniadau cyfalaf dewisol i fyrddau iechyd lleol;
o manylion am gostau’r cynlluniau yn 2016-17 sy'n cael eu hariannu yn barod;
o manylion y dyraniadau cyfalaf newydd ar gyfer 2016-17.
3.3 Datganodd David Rees y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
· Mae ei wraig yn cael ei chyflogi fel radiograffydd uwch-arolygydd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
4.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion.
4.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid a'r Dirprwy Weinidog a chytunwyd i ysgrifennu atynt i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion a gododd yn ystod y sesiwn.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r llythyr hwn yn cael ei rhannu â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i lywio'r craffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Dirprwy Weinidog Iechyd a chytunwyd ar y llythyr hwnnw, yn amodol ar fân newidiadau.
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu a chytunodd arno.
9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried trafodion Cyfnod 2 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) mewn egwyddor.